Doc Fictoria Victoria Dock Caernarfon

Arddangosfa Arforol
Postio: 27/03/2009
Ar Agor 6ed Ebrill, Celtica, Doc Fictoria
Hafan Iechyd nawr ar agor
Postio: 27/03/2009
Mae Clinig Ceiropracteg Arfon yn fusnes newydd sydd wedi agor yn ddiweddar yn Doc Fictoria. Bwriad y clinig yw darparu gofal ceiropracteg proffesiynol, cyfeillgar ac o safon uchel i bobl yng Ngwynedd.
Gall Clinig Ceiropracteg Arfon rhoi rhyddhad effeithiol i bobl sydd yn dioddef gyda:
Ceiropracteg yw'r broffesiwn gofal iechyd drydydd fwyaf ar ôl meddygaeth a deintyddiaeth. Mae'n arbenigo mewn diagnosis a thriniaeth o broblemau yn ymwneud â'r cymalau, cyhyrau, gewynnau, tendonau a'r nerfau. Mae cleifion yn rhydd i gysylltu â cheiropractydd heb gael eu cyfeirio ato gan eu meddyg teulu.
Anna Marie Williams BSc MSc (chiro) DC yw'r ceiropractydd yng Nghlinig Ceiropracteg Arfon. Fe symudodd hi yn ôl i Gaernarfon yn ddiweddar ar ôl treulio 7 mlynedd yn gweithio fel ceiropractydd yn Swydd Efrog. Mae'r clinig wedi ei leoli ar yr ail lawr uwchben Yr Harbwr, mae'n agor 5 diwrnod o'r wythnos ac yn darparu gofal ceiropracteg i bobl o bob oed. Mae'r mynedfa gyferbyn â Celtica ac mae yna lifft i'r ail lawr er mwyn cyrraedd y clinig yn hawdd.
Am fwy o fanylion neu i wneud apwyntiad ffôniwch: 01286 675934, ebost: enquiries@arfonchiropractic.co.uk neu ewch i'r wefan: http://www.arfonchiropractic.co.uk.
Hafan Iechyd nawr ar agor
Postio: 28th January 2009
Travelodge Nawr ar Agor
Postio: 14th January 2009
Hafan Iechyd ar agor yn fuan
Postio: 4th December 2008
Gwefan newydd Celtica nawr ar lein!
Postio: 3rd December 2008
Bwyty Cantonese Fu's nawr ar agor.
Postio: 4th November 2008
Bwyty Cantonese Fu's nawr ar agor. Bwydlen take-away ar gael. Galwch 01286 669410 i archebu bwrdd neu am rhagor o fanylion.
Agoriad Celtica - Newyddion y Wasg
Postio: 12 Mai 2008
Canolfan Siopa Celtica yn Agor Mawrth 22 Ebrill
Postio: 18 Ebrill 2008
Premier Inn - Yn Agor Dydd Llun 7 Ebrill
Postio:3 Ebrill 2008
Bydd y gwesty Premier Inn, gyda 49 o ystafelloedd gwely, yn lle perffaith i dreulio'r nos, a bydd y gwesteion yn cael y Good Night Guarantee unigryw. Mae Premier Inn, yn unol â'r warant hon, yn rhoi addewid i bob gwestai y bydd yn cael noson dda o gwsg mewn ystafell safonol gyfforddus gyda gwasanaeth cyfeillgar.
Bydd canolfan siopa newydd yng Nghaernarfon yn agor ei drysau i gwsmeriaid yn Ebrill 2008.
Postio:19 Mawrth 2008
Bydd Celtica'n dod â chasgliad o'r nwyddau Cymreig a Cheltaidd gorau at ei gilydd, yn cynnwys anrhegion, bwyd a nwyddau i'r cartref.
Mae nifer o gyflenwyr lleol yn barod wedi eu cadarnhau ac mae'r tîm rheoli wrthi'n trafod gyda sawl un arall sydd wedi mynegi diddordeb. Bydd cynnyrch o Lydaw hefyd yn cael ei werthu, gan adeiladu ar gysylltiadau tref Caernarfon gyda'i gefeilldref Landerneau; yn ogystal â chynnyrch o wledydd Celtaidd eraill fel yr Alban ac Iwerddon.
Mae Peter Gee, manwerthwr profiadol, wedi'i benodi i arwain yr Uwch Dîm Rheoli. Mae'n disgrifio Celtica fel profiad siopa unigryw. Ychwanegodd: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyflenwyr lleol a rhai o'r cynhyrchwyr gorau o bob rhan o Gymru er mwyn darparu cyfleoedd busnes yma yn Noc Fictoria. Rydym yn awyddus i sicrhau profiad siopa unigryw a fydd yn ychwanegu gwerth at yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghaernarfon. Bydd cysylltiadau trafnidiaeth ac arwyddion newydd yn cael eu sefydlu rhwng canol y Dref a Doc Fictoria a bydd hynny'n sicrhau bod modd i siopwyr lleol, yn ogystal ag ymwelwyr, fwynhau'r datblygiad newydd fel rhan allweddol o Gaernarfon. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghaernarfon - ac rydym yn hynod falch o fod yn rhan o'r adfywiad hwn."
Er gwaethaf teimladau cymysg ar y cychwyn ynglyn â datblygiad Doc Fictoria, mae nifer o drigolion lleol yn awr yn edrych ymlaen at gael manteisio ar y cyfleusterau a'r cyfleoedd hamdden newydd a fydd ar gael yng Nghaernarfon.
Dywedodd Siwan Haf a Medi Davies o Res Segontium: "Rydym yn byw yng nghanol Caernarfon, ac er ein bod yn hoff iawn o fyw yn y dref mae'n rhwystredig fod prinder cyfleusterau yma a bod cymaint o bobl ifanc yr un oed â ni yn symud i ffwrdd i fyw a gweithio. Ochr yn ochr â Galeri a gwelliannau eraill yng nghanol y dref, mi fydd y datblygiad yn Noc Fictoria yn helpu i wella ansawdd bywyd yn y dref. Rydym ni'n hynod falch bod Caernarfon yn symud ymlaen, ac yn sgil hynny'n dechrau denu mwy o bobl i'r ardal. Mae hyn yn newydd da i'r economi lleol ac mi fydd yn golygu nad ydi pobl yn teimlo'r angen i deithio a gwario eu harian mewn trefi a dinasoedd mwy."
Bwyty 'Yr Harbwr' - Yn agor Dydd Gwener 14 MawrthBydd bwyty newydd sbon 'Yr Harbwr', sydd yn agor i'r cyhoedd ar Dydd Gwener 14 Mawrth, yn lle braf a chyfoes i fwyta ac yfed.
Bydd mân fwydydd bys a bawd, ffefrynnau tafarn traddodiadol a seigiau a fydd yn siwr o dynnu dwr i'ch dannedd. Bydd awyrgylch braf yn y bwyty a bydd yn fan delfrydol i gwrdd â ffrindiau a theulu
Bydd y gwesty Premier Inn ar agor diwedd mis Mawrth, gyda 49 o ystafelloedd gwely, yn lle perffaith i dreulio'r nos, ac yn rhoi addewid i bob gwestai y bydd yn cael noson dda o gwsg mewn ystafell safonol gyfforddus gyda gwasanaeth cyfeillgar.
Bydd bwyty newydd Table Table â gwesty Premier Inn yn agor ym Mawrth
Postio: 25 Chwefror 2008
Bydd bwyty newydd sbon o'r enw Table Table ynghyd â gwesty Premier Inn yn agor i'r cyhoedd yn Noc Fictoria y mis nesaf.
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys bwyty Table Table, gyda lle i 230 o gwsmeriaid, yn lle braf a chyfoes i fwyta ac yfed. Bydd y fwydlen yn cynnwys dewis helaeth o fwydydd blasus, a ysbrydolwyd gan fwydydd o bob rhan o'r byd ac a baratowyd gan gogyddion gwych. Bydd mân fwydydd bys a bawd, ffefrynnau tafarn traddodiadol a seigiau a fydd yn siwr o dynnu dwr i'ch dannedd. Bydd y fwydlen yn cynnig digon o wahanol flasau i blesio pawb yn ddiwahân. Ceir bwydlen arbennig ar gyfer plant, a bydd bwydlen amser cinio a phrydau ysgafn, addas iawn ar gyfer cymdeithasu yn ystod y dydd. Mae'r rhestr winoedd yn un eang a bydd coffi Eidalaidd Costa'n cyd-fynd yn dda â'r fwydlen wych.
Bydd awyrgylch braf yn y bwyty a bydd yn fan delfrydol i gwrdd â ffrindiau a theulu, i ymlacio a sgwrsio wrth y tân gyda photel o win neu Latte Baileys blasus.
Bydd y gwesty Premier Inn, gyda 49 o ystafelloedd gwely, yn lle perffaith i dreulio'r nos, a bydd y gwesteion yn cael y Good Night Guarantee unigryw. Mae Premier Inn, yn unol â'r warant hon, yn rhoi addewid i bob gwestai y bydd yn cael noson dda o gwsg mewn ystafell safonol gyfforddus gyda gwasanaeth cyfeillgar.